DFT - UK Department for Transport

08/11/2026 | Press release | Distributed by Public on 08/11/2026 06:20

Cerbydau awtomeiddiedig: datganiad o egwyddorion diogelwch

Rydym yn ceisio barn ar y datganiad drafft o egwyddorion diogelwch ar gyfer cerbydau awtomeiddiedig.

Mae'r datganiad o egwyddorion diogelwch yn ofynnol o dan adran 2 o Ddeddf Cerbydau Awtomeiddiedig 2024. Mae'n rhan o'r fframwaith diogelwch a gynlluniwyd i sicrhau bod cerbydau awtomeiddiedig yn:

  • ddiogel i'w cyflwyno
  • yn aros yn ddiogel ar ôl eu cyflwyno

Bydd y datganiad statudol o egwyddorion diogelwch yn tywys yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth mewn penderfyniadau ynghylch a ellir defnyddio cerbyd awtomeiddiedig ar ffyrdd y DU. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer monitro parhaus cerbydau hunan-yrru awdurdodedig.

Bydd yn darparu canllawiau ar yr ymddygiadau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl eu gweld gan gerbydau wrth fodloni'r prawf hunan-yrru o deithio'n ddiogel ac yn awtomataidd.

DFT - UK Department for Transport published this content on August 11, 2026, and is solely responsible for the information contained herein. Distributed via Public Technologies (PUBT), unedited and unaltered, on August 11, 2026 at 12:21 UTC. If you believe the information included in the content is inaccurate or outdated and requires editing or removal, please contact us at [email protected]